1947                                              Nol i'r Oriel

Yn 1956 fe gafodd yr ysgol “wireless.” Fe roddwyd golau trydan yn yr ysgol yn 1955 
Dyma ddetholiad o gynnwys Llyfr Log yr ysgol yn cofnodi eira trwm 1963.

Roedd pentref Trewyddel wedi ei dorri bant yn llwyr o’r byd tu allan oherwydd y lluwchfeydd eira, ac erbyn Chwefror 8 roedd y cyflenwad bara i gyd wedi rhedeg allan. Yr unig gadwyn rhwng y  pentref a’r byd oedd y teleffon.
Ar Chwefror 7, ffoniwyd Swyddfa’r Heddlu yn Llandudoch am gymorth. Cafwyd y syniad o ddanfon cyflenwad o fwyd i Drewyddel ar  gwch neu awyren ac fe ffoniwyd Y Col. C. Ward yn Aberporth. Fe gafwyd ymateb cyflym, ac fe hwyliodd cwch rwber mawr o gylch y penrhyn gyda 150 torth o fara, peth te a siwgwr. Roedd nifer o bentrefwyr yn disgwyl ar Draeth Ceibwr yn barod i rannu’r bwyd i fobl yr ardal.