Bae Ceibwr


 


Mae Ceibwr yn draeth diddorol iawn i’r rhai hynny sydd a diddordeb yn naeareg neu yn gwerth fawrogi golygfeydd godidog. Nid yw’r traeth yn addas i nofio gan ei fod yn  garegog. 

Mae’r clogwynni i’r gogledd yn anghreifftiau arbennig o gerrig wedi eu plygu.

Gellir gweld Morloi y Mor Iwerydd yn aml ar yr arfordir.
 


 


Fe wnaeth y bont “Clapper” yma ei rhoi dros Afon Awen wedi i’r hen font goncrid gael ei golchi i ffwrdd gan y llifogydd mawr o Fehefin 1994. Fe wnaeth y glaw ddiddiwedd greu genllif yn Nhrewyddel a chariwyd cerrig enfawr i lawr drwy’r pentref. Derbyniodd Ceibwr holl rym y llifogydd gan mae yma mae ceg Afon Awen a Nant Ceibwr.  

Mae’r llong bysgota a welir yn y cefndir yn cynrychioli beth sydd ar ol o’r diwydiant pysgota yn Nhrewyddel.
 


 

Mae’r  planhigion sydd i’w gweld o gylch Ceibwr a Threwyddel yn amrywiol a chyfoethog. Mae’r  cloddiau uchel sydd ar y lonydd cul o gwmpas yr ardal yn gartref i amrywiath anhygoel o flodau gwyllt a gwelir yn tyfu ar eu pen   enghreiffiau arbennig a goed wedi eu sgubo gan y gwyntoedd cryf i greu siapau anghyffredin ac iasol.
Mae’r canfas natur yn newid drwy y tymhorau, gyda erlysiau yn swatio ym mon y cloddiau yn y gaeaf, briallu a chennin Pedr yn y gwanwyn a charpedi o glychau glas a choch y neidr yn yr haf cynnar. 
Ar y llethrau hynny sydd yn agored i’r mor ac yng ngwyneb y gwyntoedd cryfion o gyfeiriad Mor yr Iwerydd, gwelir dwmpathau o glustog Fair yn gorchuddio y ddaear mewn nifer o wahanol liwiau o binc.
Cadwch lygaid allan am gen ar y creigiau.
 


 


Mae’r llun yma o forlo a’i chyw ar Fae ceibwr wedi ei dynnu gan Rory, un o ddisgyblion yr ysgol. Cafodd ei dynnu gyda nifer o luniau eraill gan Rory i gystadleuaeth crefft yr Urdd. 

Mae gwiberod wedi eu gweld lawr yng Ngheibwr hefyd.

C ffotograff 2. 1998 Trip Maes i Bwll y Wrach
 


 

Nol i Ddaearyddiaeth Bwrdd Du