| Eglwysi a Chapeli |
Saif Egwys Sant Andreas ym mhlwyf Llandudoch, lle gellir gweld adfeilion yr Abaty. Disgrifiwyd yr eglwys yn 1291 fel Ecclesia de Grava Matilda. Oddi ar y dyddiad yna mae cyfnodion yr eglwys yn dangos ei bod wedi ei hadnewyddi droeon. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1866 ac mae carreg ar dyddiad 1619 iw gweld yn y mur gorllewinol. Yn nhwr y gloch mae bedyddfaen hynafol or hen eglwys, a wnaeth ei darganfod ar fferm lleol. |
Hefyd ym mhlwyf Llandudoch mae eglwys Monington. Maer eglwys yma hefyd wedi ei chysegru i Sant Andreas. Enw Cymraeg yr eglwys yw Eglwys Wythwr, sef Eglwys yr Wyth Dyn. Mae hyn yn hannu or ffaith bod wyth teulu yn byw ym mhlwyf Monington. Ailadeiladwyd yr eglwys yn 1860 am £100 gan y pensaer R. J. Withers o Lundain, a wnaeth gynllunio Eglwys Sant Andreas hefyd. Disgrifwyd yr eglwys gan CADW fel a well designed small church in severe high Victorian Gothic manner Mae
yna furlun mewn cyflwr da o angylion ar y muriau y tu
fewn ir eglwys a chan nad oes yna drydan ynddi maen
cael ei goleuo gan lampaiu paraffin. |
| Mae Capel Bethel wedi ei adeiladu ym
mhentref Trewyddel. Mae arysgrifen ar fur piniwn y capel
yn darllen Bethel, Addoldy yr Annibynwyr, Sefydlwyd
1691. I ddechrau roedd cynyllfaoedd annibynnol yn fach ac roeddent yn cwrdd mewn tai fferm ac ar adegau ar draethau cysgodol. Byddair tai fferm yn gartref i gredwyr selog a traeth yn ganolog ir gynylleidfa. Codwyd Festri Bethel yn 1932 ar safle Tafarn y Llew Gwyn. |
| Gwelir Capel Tabernacl hefyd ym
mhentref Trewyddel. Fei adeiladwyd gan Y Bedyddwyr
ym 1894. Cyn ir capel gael ei adeiladu roedd yr
oedfaon yn cael eu cynnal yn Rhyd y Gors o 1878. Fe
wnaeth Y Bedyddwyr wedyn rentu bwthyn to gwellt ar safle
yr adeilad presennol. Talwyd y pris eithafol o £130 gan
Ifor Evans i dalu am y bwthyn ar ran Y Bedyddwyr. Defnyddwyd Nant Awen syn llifo wrth ochr y capel ir bedydd cyntaf yn 1887. Maer bedyddfa nawr o fewn tir y capel. |