Llwybr yr Arfordir

 

 
 
 

Agorwyd Parc Cenedlaethol Sir Benfro yn 1970 gan yr awdur  a’r darlledwr enwog, Wynford Vaughan Thomas. Mae’r llwybr, sydd yn 180 milltir o hyd, yn dechrau yn Poppit, i’r gogledd ddwyrain o Geibwr ac yn dilyn yr arfordir i Amroth yn ne Sir Benfro. Mae’r llwybr yn ymdroelli yn hamddenol drwy Ceibwr a Phwll y Wrach ac yn le perffaith i weld y clogwynni ysblennydd  a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt.
Mae angen gofal wrth gerdded rhannau o’r llwybr gan fod rhai o’r clogwynni yn 500 o 
droedfeddu yn uwch na’r mor, ac mae’r rhan fwyaf heb ei ffenso.
 


 

 

Mae yna gymaint o gerddwyr yn cerdded y llwybr nes ei fod yn sefyll allan ar y clogwynni fel craith frowngoch. Mae erydi cyson o’r clogwynni yn meddwl fod cwrs y llwybr yn newid yn rheolaidd ond mae’n cael ei gynnal yn ddyfal gan Y Parc Cenedlaethol i sicrhau diogelwch y cerddwyr.


 

Tynnwyd y llun yma o Garreg yr Wylan gan ddisgybl o’r ysgol;- Rory, pan oedd y tywydd yn arw.

Mae Bae Ceibwr yn agored iawn i dywydd yr Atlantig. 

Pan fod y tywydd yn fwyn a llonydd mae’r mor yn wyrddlas, ond yn ystod stormydd y gaeaf pan mae’r tonnau yn hyrddio yn erbyn y clogwynni  mae’r mor yn troi yn lwyd oer.

 

Nol i Ddaearyddiaeth Bwrdd Du