Ras Hwyiaid a Barbeciw

Reprint from Tivy Side Advertiser

Cafwyd noswaith o hwyl a sbri yn ddiweddar pan gynhaliwyd Ras Hwyiaid a Barbeciw ar Draeth Ceibwr i godi arian i Gronfa Ysgol Trewyddel. Roedd yna gynnwrf mawr fel y rhyddhawyd 1000 o hwyiaid i Afon Awen i ymladd eu ffordd i lawr i'r bont lle roedd plant yr ysgol yn aros yn eiddgar i ddal yr ennillwyr.
Codwyd dros £900 tuag at yr ysgol a braf oedd gweld y gymdogaeth gyfan wedi troi allan i gefnogi y digwyddiad a hefyd nifer o ymwelwyr i'r ardal.
Ar ol llyncu dros 200 o fyrgers a chwn poeth blasus casglodd pawb i wylio y plant yn cymeryd rhan mewn rasys tair choes a rhwystrau ar y traeth.
Daeth y noson i ben gyda ymweliad annisgwyl Morlo Llwyd allan yn bae.
Ymweliad a wnaeth goroni noson lwyddiannus dros ben.

Canlyniadau y Ras Hwyiaid
1af (£75) Mrs Heulwen Phillips
2il (£50) Mrs Hefina Morris
3ydd (£10) Mr Peter Fletcher
4ydd (£10) Mr Terry Stone
5ed (£10) Mrs Yvonne Jenkins

 

 

Cliciwch ar y teitlau i weld y lluniau yn fwy. 

 

 

 

 

 

Barbeciw

 

Ras Hwyiaid

 

Hwyl a sbri

 

 

Nol i bwrdd gwyn