| Daearyddiaeth |
|
Lleolir pentref Trewyddel yng nghesail dyffryn coediog yng ngogledd Sir Benfro ac o fewn ardal Parc Cenedlaethol Sir Benfro. Mae’r dyffryn yn ymestyn o Fae Ceibwr, rhyw filltir i ogledd y pentref. I’r de gwelir Mynyddoedd y Preselau yn codi’n urddasol yn y pellter ac yn ol yr hanes dyma gartref y cerrig gleision enwog a welir yng Nghor y Cewri. |
| Pwll y Wrach | Bae Ceibwr | Llwybr yr Arfordir | Y Bwrdd Du | Mapiau |