Gwybodaeth i Rieni


Cyfeiriad:   
Ysgol Gynradd Trewyddel, Trewyddel,Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BW.

Rhif Ffon:   01239 881606

Prifathrawes:   Mrs E. Thomas

Athrawes:   Mrs J. Phillips

Cadeirydd -Y Llywodraethwyr: Mr J. Fletcher, Penrallt Uchaf, Trewyddel - 01239 881679

Casglu a rhannu cinio ysgol:   Mrs Y. Jenkins

Gofalwraig plant dros amser  cinio:   Mrs S. Wales

Gofalwraig, / Glanhauwraig:   Mrs J. Jones

Math o Ysgol:   Ysgol Gynradd Sirol, gyda uned y babanod ac uned iau.

Oriau Ysgol:   sesiwn y bore 09.00 - 12.00.     sesiwn y prynhawn 13.00 - 15.15.

Dechreuir bob dydd am 9 o'r gloch gyda chofrestru ac yna gwasanaeth boreol.  Bydd pob plentyn yn rhan o'r gwasanaeth oni ddewisir yn wahanol am resymau crefvddol gan y rhiant.

Rydyn yn falch o'n ffigyrau presenoldeb.  Rydyn hefyd yn falch o weld y plant yn cyrraedd yn brydlon tua 8.50 y bore.  Ni ddylai plant fod yn yr ysgol cyn 8.45.

Croeso cynnes 1'ch plentyn 1 Ysgol Gynradd Trewyddel.  Gyda chydweithio hapus rhwng yr ysgol a'r cartref bydd sefyllfa ddysgu effeithiol yn cael ei chreu.

Nodau ae Ameanion yr Ysgol
Dylai'r ysgol helpu'r disgyblion

-i deimlo yn gwbwl gartrefol yn yr ysgol ac i fwynhau yr addysg sy'n cael ei ddarparu ar eu cyfer,

-i ddatblygu fel unigolion ac fel aelodau o gymdeithas ac i gydfyw yn hapus gyda'i cyd-ddyn,

-i ddatblygu agwedd iach at addysg syn ddigon hyblyg i'w gallu ymgodymu a newidiadau cymdeithasol y dyfodol,

-i feithrin meddyliau bywiog ac ymchwilgar a'r gallu i ymroi i dasgiau, hefyd y  

gallu i ddadlau yn synhwyrol a datrys problemau yn rhesymegol.  

-i ddefnyddio iaith a rhif yn effeithiol,

-i ddatblygu medrau corfforol,

-i feithrin gwerthoedd moesol personol, parch at werthoedd crefyddol, goddefgarwch at hiliau a chrefyddau eraill a ffyrdd o fyw gwahanol,

-i ddeall y byd y maent yn byw ynddo a chyd-ddibynlaeth unigolion, grwpiau a chenedloedd,

-i ddatblygu synnwyr o ryfeddod tuag at brydferthwch ac ehangder y greadigaeth ac i werthfawrogi a pharchu eu hamgylchfyd,.

-i fod yn ymwybodol o lendid personol, moesgarwch a chwrteisi ac arferion diogelwch yn yr ysgol ac yn y gymdeithas.

Amcanion Penodol
Dymunir bod pob disgybl yn;

- meistroli y sgiliau astudio y bydd angen arno i wneud ei waith,

-  gwrando yn astud a chyda dealltwriaeth,

 -darllen yn rhugl a chywir, gyda dealltwriaeth a theimlad,

-datblygu llawysgrifen ddarllenadwy a safonau boddhaol mewn sillafu, cystawenau, atalnodi a defnyddio geiriau,

-ennill geirfa eang, yn cyfathrebu yn glir a hyderus ar lafar ac ar bapur mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer achlysuron a dibenion amrywiol,

-dysgu sut y mae cael gafael ar wybodaeth o wahanol ffynonhellau, a chofnodi gwybodaeth a darganfyddion mewn ffyrdd amrywiol,

-trin rhifau yn hyderus ac i gymhwyso medrau cyfrif yn gyflym a chywir,

-deall cymwysiadau mathemategol mewn amrywiol sefyllfaoedd yn y cartref, yr ystafell ddosbarth, yr ysgol a'r fro leol,

-arsylwl pethau byw a phethau ddi",yd, ac adnabod nodweddion megis patrwm a threfn,

-melstroli cysyniadau gwyddonol sylfaenol,  

-ymchwilio a dehongli tystiolaeth yn hyderus ac y,n effeithiol, dadansoddi a datrys problemau,

-melthrin ymwybyddiaeth o'i hunan a sensitifrwydd at eraill, datblygu gwerthoedd moesol a'r hyder i wneud ac arddel bam foesol, a meithrin hunan-ddisgybliaeth ac ymddygiad derbyniol,

-ymwybodol o'r agweddau daearyddol, hanesyddol a chymdeithasol,yr amgylchedd leol a'r dreftadaeth genedlaethol, a bod yn ymwybodol o gyfnodau, gwledydd a mannau eraill,

-dysgu a meistroll rheolaeth dros ei hun a'r profiad a'r gallu i ddefnyddio offer a chyfarpar yn gywir a hyderus fel y bod yn gallu gwerthfawrogi a defnyddio cerddoriaeth, drama, dylinio a thechnoleg, celf a gwybodaeth technoleg yn gyfrwng mynegiant,

-meithrin ystwyther a chydgysylltu corfforol, meithrin hyder mewn gweithgarwch corfforol, a'r gallu i fynegi teimlad drwy symud.

Cedwir gopi o Ddatganiad Polisi yr Awdurdod Addysg Leol ar y Cwricwlwm yn yr ysgol.

Derbvn Plant i'r Ysgol
Mae Ysgol Trewyddel yn gyntaf yn derbyn plant o bentref Trewyddel a'r ardal gyfagos.  Os bydd yna leoedd dros ben yn yr ysgol derbynnir plant y tu allan yr ardaloedd a nodwyd uchod.

Derbynir plant i'r ysgol ar ddechrau'r tymor ar o1 eu pedwaredd penblwydd.

Rhoddir cyfle i'r rhieni ymweld a’r ysgol a'r dosbarth derbyn / babanod i gwrdd ac i siarad a’r athrawon.  Hefyd caiff y plentyn gyfle i dreilio cyfnodau yn yr ysgol er mwyn cvfarwyddo a sefyllfa ysgol ac i gwrdd a'r plant eraill cyn dechrau yn amser llawn.

Trefniadaeth yr Ysgol
Mae yna ddwy ran i'r ysgol.  Mae'r dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a 2 mewn caban symudol ar yr iard tra fod y dosbarth iau ym y brif adeilad.

Trefnir y dosbarthladau yn ol oed y plant o alluoedd cymysg mor belled ag y mae rhifau yn caniatau.

Mae yna iard o gwmpas yr ysgol l’r plant chwarae.  Ar un rhan o'r iard mae cwrt pelrwyd. Tu ol i’r  ysgol mae cae chwarae pel droed.  Caniateir i’r plant chwarae ar y cae pryd mae'r tywydd yn braf.

Mae Ysgol Trewyddel yn ysgol Categori A. Cymraeg yw prif gyfrwng cyfathrebu ac addysgu yn yr ysgol.  Bydd Saesneg yn cael el chyflwyno yn ffurflol ar ddechrau blwyddyn 3. Yn ystod y blynyddoedd cynnar bydd storiau yn cael eu darllen yn y Saesneg yn achlysurol i'r plant.

Mae'r athrawon bob amser yn ymwybodol o sefyllfa ieithyddol pob plentyn unigol ac yn ymateb a gweiftedu yn sensitif fel bo'r angen.

Y Cwricwlwm
Cyflwynir y cwricwlwm yn unol a chanllawiau'r Cwricwlwm Cenedlaethol gan anelu at waith eang a chytbwys.  Ceisir cyflwyno pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy thema.  Dilynnir yr un thema drwy'r ysgol ain un tymor ar y tro.  Dewisir pob thema yn ofalus er mwyn sicrhau bod gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cael eu hateb.  Ar adegau fe gyflwynir rhai agweddau o'r cwricwlwm yn bynciol.

O'r dosbarth cyntaf rhoddir pwyslais ar y sgiliau sylfaenol; sef Iaith lafar ac ysgrifennu, darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Defnyddir arbenigrwydd a diddordeb staff i gwrdd ag anghenion y cwricwlwm, gan greu amserlen bwrpasol i'w gweithredu drwy'r ysgol.

0 fewn pob dosbarth grwpir y plant yn eu blwyddyn ysgol i raddau helaeth gan roddi gwaith gwahaniaethol yn ol y rhychwant gallu o fewn y grwpiau hynnu.  Gall trefn y grwpiau newid yn unol a gofynion pynciau, gwersi a phlant unigol.

Os oes yna blentyn o allu arbennig yn y dosbarth yna sicrheir bod ei ddiddordebau a'i allu yn cael eu hymestyn drwy weithgareddau pridol fel y bod yn cael cyfle i ddatblygu i'w llawn dwf

Treulir tair awr ar hugain yr wythnos yn dysgu yn yr adran iau a thros un awr ar hugain yn adran y babanod.

Rhoddir amser penodol o awr i Addysg Grefyddol.  Nid yw'r amser yma yn cynnwys cyd-addollad dyddiol.

Anghenion Addysgol Arbennig
Mae'n rhan o bolisi'r ysgol i gelsio derbyn a chyfaddasu at ofynion pob plentyn beth bynnag yw ei anhawster.  Ceisir canfod plant ag Anghenion Addysg Arbennig yn gynnar er mwyn eu gosod ar y gofrestr a sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth bwrpasol mor gyflym ag y bod modd.

Pan gytunir bod angen sylw arbennig ar blentyn, mae gennym broses gosodedig o asesu a chofnodi ac yna datblygu rhaglen fwy penodol i'r unigolyn.  Gall rhan o'r pecyn arbennig olygu fwy o adnoddau, gan gynnwys adnoddau stafflo ac os bydd yr anhawsterau sydd gan blentyn yn amlwg iawn o'r cychwyn, mae'n bosib y medrwn gael yr adnoddau ychwanegol yn eu lle erbyn i'r plentyn ddechrau'r ysgol.  Hefyd, drwy adnabod gwendidau y plant yn gynnar bydd yr ysgol yn sicrhau cyllid i dderbyn cymorth athrawon ar ddwy lefel.  Yn gyntaf ar gyfer y plant hynny a dderbyniodd Ddatganiad o Addysg Arbennig ceir athro wn amser pennodol yr wythnos.  Yn ail, ceir cyllid i gael athro i mewn i roddi hwb i rheini sy angen ychydig mwy o sylw a chefnogaeth na'r gweddill.

Gwneir pob ymdrech i gadw'n plant ag anghenion arbennig gyda'i cyfoedion yn y dosbarth.  Byddant yn dilyn rhaglen y Cwricwlwm Cenedlaethol mor belled ag sy'n bosibl er, yn aml, addasur y gwaith a gwahaniaethir yn ol y galw.

Rhaid derbyn caniatad rhieni cyn gwneud penderfyniad ynghylch unrhyw blentyn.

Addysg Rhyw
Nid yw Addysg Rhyw yn cael ei gyflwyno fel gwesi ffurflol, ond yn hytrach fel rhan naturiol o wersi eraill neu pan godir gwestiynau gan y plant.

Trefniadaeth Fugeiliol yr Ysgol
Y Brifathrawes sy'n bennaf gyfrifol ond dibynna ar gydweithrediad aelodau'r staff i ofalu am y disgyblion.  Gan fod y plant wedi eu gosod mewn dosbarthiadau, mae hyn yn galluogi'r athrawes ddosbarth i fod yn gyfrifol am ei dosbarth.  Cedwir restr o rifau ffon rhieni ag os digwydd anffawd, a phlentyn yn angen sylw meddygol, gwneir pob ymgais i gysylltu a'r rhieni yn gyntaf, os bydd yr amgylchladau'n galw am hynnu.  Trinir damweiniau bach gan aelodau'r staff, ond gydag damweiniau difrifol trosglwyddir y plentyn at feddyg.  Mae'n bwysig felly rhoi gwybod i'r ysgol os bydd rhif ffon neu chyfeirlad y cartref yn newid.

Mae aelaodau o'r staff yn yr ysgol ac ar ddyletswydd bob dydd cwarter awr cyn i’r ysgol ddechrau ac am yr un amser ar ddiwedd y dydd, yn gofalu am y plant sy’n bresennol, a sicrhau bod pawb yn ymadael yn ddiogel o'r ysgol.  Yn ystod amser chwarae mae aelod o staff ar ddyletswydd.  Yn ystod amser cinio mae gwarchodwraig ar ddyletswydd.  Pan orfidir cau'r ysgol oherwydd tywydd garw cymerir cainau i wahodd rhieni i gasglu eu plant o'r ysgol neu i wneud trefniadau i’w dwyn adref yn ddiogel.

Os yw plentyn yn absennol neu os oes angen ei gasglu cyn diwedd y dydd fe fyddem yn gwethfawrogi derbyn nodyn yn esbonio hyn wrth y rhieni.

Danfonnir llythyron adref gyda'r plant yn rheolaidd yn son am wahanol weithgareddau.

Ymddygiad a Disgyblaeth
Mae cyfrifoldeb disgyblaeth yr ysgol yn nwylo'r Brifathrawes, ond mae'n fater i bob un sy'n gysylltiedig a'r ysgol gan gynnwys y rhieni.  Ceir y pwyslais bob amser ar ganmol ymddigiad boddhaol yn fwy na bygythaid parhaol yn dilyn ymddiglad llai ffodus.  Ystyrir clod i'r plentyn yn rhan bwysig o waith yr athrawon.  Disgwylir i'r plant ymddwyn yn unol a safon arbennig o ymddigiad.  Annogir i'r plant i dalu'r cwrteisi priodol i bawb a pharchu hawliau ac eiddo eraill.

Bydd cosb ain gamymddwyn bob arnser yn gymhedrol.  Gall olygu fod y plentyn yn cael ei gadw i mewn dros wnser chwarae neu efailai gall olygu gorfod colli gwers nofio neu gemau am wythnos.  Gall y gosb fod yn raddedig, er enghraifft aros i mewn dros ran o ainser chwarae.  Bydd y gosb yn adlewyrchu y drosedd.  Os y bydd plentyn yn camymddwyn yn barhaol yna bydd y Brifathrawes yn estyn gwahoddiad i'r rhieni i'r ysgol i drafod ymddygiad y plentyn.

Rheolau'r Ysgol
1. Gofynnir i'r plant gerdded y tu mewn i'r ysgol.

2. Ni chaniateir i'r plant fynd y tu allan i ffiniau'r ysgol heb ganiatad.

3. Gofynnir i'r plant beidio a gadael arian yn eu bagiau, cotiau a'u pyrsiau.  Os yw'n angenrheidiol dod ag arian i’r ysgol dylid el roi yng ngofal yr athrawes ddosbarth.  Mae'n ddoethach i adael tlysau a theganau gwethfawr adref.

4. Pan fo'r tywydd yn arw dylai'r plant aros y tu mewn i'r ysgol.

5. Dylid marcio pob eitem o eiddo personol a gwisg ysgol gydag enw y plentyn.

6. Cynhelir drill tan yn rheolaidd, ac felly disgwylir i'r plant adnabod yr arwydd tan a mynd yn syth i'r man ymgynnull.

7. Ni chaniateir melysion o fewn ffmlau'r ysgol.  Annogir y plant i ddod a ffrwythau i fwyta os mynnant.

Trefn ar Gyfer Cwynion
Dylai unrhyw gwyn gael ei anelu at y Brifathrawes yn y lle cyntaf.  Os bydd y gwyn yn parhau bydd yn cael ei dwyn i sylw Llywodraethwyr yr ysgol ac fe fyddant yn cymryd y camau priodol i ddelio a'r broblem yn unol a chanllawiau y Swyddfa Gymreig.

Cinio Ysgol
Darperir c'mio o safon da gan gegin yr ysgol.  Mae'r pris yn cael ei osod gan yr Awdurdod Addysg.  Cesglir yr arian cinio bob bore dydd Llun gan y weinyddes glerigol.  Gellir gwneud cais am ginio am ddim trwy gael ffurflen oddi wrth y Brifathrawes.

Absenoldebau
Mae'n ofynnol drwy ddeddf gwlad i'r ysgol gael eglurhad ain bob absenoldeb, felly gofynnir i'r rhieni hysbysu' r ysgol drwy lythyr os bydd y plentyn adref am unrhyw reswm.

Cysylltiad Gyda’r Rhieni
Rydyn fel ysgol yn rhol pwyslais ar greu perthynas dda rhwng y staff a'r rhieni, a gwneir popeth i greu hyder yn y ddolen gyswllt yma.  Annogir y rhieni i ddod at yr athrawon pan eu bod am drafod unrhyw fater a hynnu ar amser cyfaddas.

Caiff y rhieni weld gwaith eu plant ar unrhyw adeg yn ystod y fiwyddyn ond trefnir noson agored yn ystod Tymor yr Haf. Hefyd, fe drefnir noson agored ar ffurf "surgery" lle neilltuir ainser penodol ar gyfer rhieni i drafod gwaith eu plentyn yn unigol yn ystod y flwyddyn.  Yn ystod Tymor yr Haf bydd rhieni yn derbyn adroddiad ysgrifennedig ar ddatblyglad eu plentyn.

Fe fydd o bryd i'w gilydd, gyfarfodydd i'r holl rhieni, gan gynnwys y cyfarfod Rhieni - Llywodraethwyr bob blwyddyn.

Rhoddir gwybodaeth reolaeth i'r rhieni am weithgareddau'r ysgol. Os y byddwch yn teimlo nad ydych wedi derbyn rhyw wybodaeth unrhyw amser, ffoniwch gan bod ninnau'n medru anghofio hefyd!

Mae gan yr ysgol rieni sy'n gweithio yn ddyfal i godi arian tuag at adnoddau ac offer ychwanegol i'r plant.  Heb yr ymdrechion yma byddai'r ysgol yn llawer mwy llwm.  Hefyd, mae yna rieni sy'n helpu gyda threfnidiaeth a gweithgareddau eraill yn yr ysgol.  Rydyn yn ddiolchgar iawn o'r gefnogaeth yma.

Mae'n bwysig bod gennym restr gywir o'ch eyfeiriadau a'ch rhif ffon.Mae'n ofynnol i ni hefyd gael enw perthynas neu ffrind y medrwn gysylltu a nhw os methwn ni gysylltu a chi pan fod eich plentyn yn sal ag angen iddo fynd adref.

Awgrymiadau Ar Sut I Baratoi Eich Plentyn Ar Gyfer Dechrau'r Ysgol
1. Dylid manteisio ar bob cyfle i ddod a'r plentyn i gysylltiad a'r ysgol ymlaen llaw, e.e. noson goffi, cyngerdd, mabolgampau.

2. Annog i'r plentyn i fod yn gymharol annibynnol;- mynd i'r toilet, golchi dwylo, gwisgo, defnyddio cyllell a fforc, rhoi teganau 1 gadw'n daclus.

3. Rhoi cyfle i'r plentyn weld amrywiaeth o lyfrau a sicrhau ei fod yn clywed storiau, rhigymau a chaneuon yn rheolaidd.

4. Sicrhau ei fod yn ymarfer defnyddio pensil, creionnau, paent, siswm a chlai,

yn ogystal ag amrywiaeth o deganau.

5. Manteisio ar bob cyfle i'r plentyn ddefnyddio a datblygu ei synhwyrau drwy drafod gwrthrychau o wahanol siap, lliw, pwysau ac ansawdd.

6. Cynnig gwahanol brofiadau drwy ymweld a mannau diddorol e. e. parc natur, parc antur, y traeth..

7. Os lleolir Ysgol Feithrin gerhaw dylid manteisio ar y ddarpariaeth honno.  Mae'n cynorthwyo'r plentyn i gymdeithasu, gwneud ffhndiau, dysgu rhannu a bod yn annibynnol ac yn hwyluso y cam i ddechrau'r ysgol yn amser llawn.

8. Annog y plentyn i ysgrifennu ac adnabod ei enw.

- yr unig lythyren fawr bydd y plant yn defnyddio i ddechrau fydd yr un sy'n cychwyn eu henwau au hunain,

- bydd y plentyn yn dysgu'r swn a wneir gan lythyren yn gyntaf ac nid ei henw (fe ddaw hynnu ym nes ymlaen).

Gwaith Cartref
Rhoddi'r gwaith cartref yn rheolaidd.  Fel arfer mae'r gwaith yn estyniad ac yn cefnogi yr hyn sy'n cael ei wneud yn y dosbarth.  Mae'n amrywio ran gweithgareddau.  Disgwylir i bob plentyn ddarllen adref yn rheolaidd.

Os oes yna broblem gyda gwaith cartref e. e. diffyg amser, wedi anghofio y llyfr yn yr ysgol, colli taflen waith, byddwch cystal a nodi hyn fel bod yr athrawes yn

ymwybodol o'r sefyllfa hefyd.

Gweithgareddau AIIgyrsiol
Ymweliadau - Trefnir ymwelladau'n gyson i wahanol ddibenion.-

                  - i atgyfnerthu a chefnogi'r thema

                  - i amgueddfeydd neu arddangosfeydd

                  - i theatrau a pherfformiadau byw.

Croesawir siaradwvr gwadd i'r ysgol ar bob cyfle i siarad a’r plant ac i ateb eu cwestiynnau.

Gweithgareddau Achlysurol
Cynhelir y canlynol yn rheolaidd

Cyngerdd / Gwasanaeth Nadolig

Cwrdd Diolchgarwch

Eisteddfod yr Ysgol

Mabolgampau

Gwlbdaith Haf

Cwrs laith Llangrannog

Yn flynyddol mae disgyblion yr ysgol yn cael cyfle i godi arian tuag at achosion teilwng.

Codi Tal Am Weithgareddau Ysgol
Yn dilyn Deddf Diwygio Addysg 1988, nid yw ysgolion yn gallu codi tal am deithiau ysgol yn ystod orlau ysgol.  Yn anffodus ni fydd teithlau bob amser yn medru eymryd lle os na fydd rhieni'n barod i wneud cyfraniad gwirfoddol tuag at gost y teithiau.

Clwb Llyfrau
Mae yna glybiau llyfrau Cymraeg a Saesneg yn cael eu rhedeg yn yr ysgol.  Hefyd cynhelir ffeiri llyfrau yn achlusurol yn yr ysgol.

Gwersi Offerynnau Cerdd
Caiff y plant gyfle i gael gwersi offerynnau cerdd yn yr ysgol, gan fod yna athrawon peripatetig llinynnol, pres a gitar yn ymweld yn wythnosol.

Chwaraeon
Cynhelir Mabolgwnpau Ysgol ar ddiwedd Tymor yr Haf pan fydd y ddau dy; Awen a Celbwr yn cystadlu yn erbyn eu gilydd

Yn ogystal a gwersi ymarfer corff. chwareon a nofio rheolaidd manteisir ar bob cyfle i gystadlu yn erbyn ysgolion eraill mewn amrywlol chwaraeon.

Urdd Gobaith Cymru
Ymuna nifer fawr o blant yr ysgol a’r mudiad yma.  Maent yn cael cyfle i gymerid rhan a chystadlu yng nghystadleuthau Ilwyfan a chrefft yr Eisteddfod, chwaraeon yr Urdd, gweithgareddau yr Urdd ar gyfer plant cynradd ac i fynychu Gwersyll yr Urdd, Llangrannog.

Gwisg yr Ysgol
Er nad yw gwisg ysgol yn orfodol yn yr oed cynradd, annogwn y plant i'w gwisgo.  Mae'r wisg yn cynnwys;-

Siwmper / cardigan las

Crys / blows las olau

Trowser / sgert lwyd

Bwrdd du