Mae'r we, neu'r 'world
wide web', yn dechrau dod yn rhan annatod
o fywyd y mwyafrif o bobl sy'n gweithio.
Mae i fod yn hwyluso gwaith rnewn swyddfeydd,
siopau a hyd yn oed ar y fferm os mae fiy
nhad i'w gredu!
Yr un yw'r stori
yn ein hysgolion, gyda llawer o ddisgyblion
yn fwy hyderus na' u hathrawon ar y cyfrifladur.
Mae nifer yn defnyddio'r we i gadw mewn
cysylltiad â ffrindiau, gwneud ffrindiau
newydd a chwilio am unrhyw .ffeithiau a
gwybodaeth a ellir eu helpu wrth eu gwaith
ysgol.
Yn sgil y cynnydd
yma o ddefnyddio'r we mae nifer o ysgolion
wedi creu safleoedd gwe eu hunain a dyma
r’ai ohonynt i chi.
Mae'r cyfeiriad www.pembschool.org.uk
yn gallu eich arwain
i bob ysgol yn Sir Benfro sydd ar y we.
Mae'n rhaid dweud bod llawer llai na'r disgwyl,
gan ystyried y pwyslais mae'r sir a'r llywodraeth
wedi oeisio rhoi ar ddatblygu y dechnoleg
yma.
Mae bob ysgol uwchradd
yn Sir Benfro, a rhyw 15 ysgol gynradd ar
y rhestr. Dwi wedi canolbwyntio ar ardal
Abergwaun a Crymych felly dyma rhai o'r
cyfeiriadau i chi. Wnes i fwynhau safle
gwe Ysgol Uwchradd Abergwaun, er fod ychydig
o waith i'w wneud arno eto. Dyna drueni
nad oes unrhyw Gymraeg ar y safle, gan feddwl
y creu nid y cyfieithu sydd yn anodd.
Os ydych chi am ychydig
o hwyl a sbri mae gwerth ymweld â'r
gofirestr o ymwelwyr; mae llu o negeseuon
ac atgofion yna. Ewch i
www.fishguar.demon.co.uk
|
Braidd mwy fel llawlyfr
ydy safle gwe Ysgol Dewi Sant. Unwaith eto
yn uniaith Saesneg mae angen mwy o fewnbwn
wrth y disgyblion i rhoi cymeriad i'r safle
yn fy marn i. Penderfynwch dros eich hunan
wrth ymweld â
www.dewisant.pembroke.sch.uk
Nid yw safle gwe
Ysgol y Preseli yn barod eto gyda arwydd
mawr 'o dan adeiladaeth' yn fflachio wrth
ymweld a
www.ysgolypreseli.com
Fe fydd rhaid aros
am ychydig i weld beth sydd ganddynt i gynnig
i ni.
Mae Ysgol Clydau
ar y we erbyn hyn hefyd, ond mae'n debyg
mae mabwysiadu gwefan Ysgol Tegryn maent
wedi gwneud. Mae'r safle yn ddiddorol, ond
eto yn Saesneg yn unig ac mae angen ei ddiweddaru
ychydig. Edrychwch dros eich hunan www.northpembs.co.uk/school
Rydw i wedi cadw'r
gorau hyd olaf. Yn fy marn i mae safle gwe
Ysgol Trewyddel yn fendigedig ac yn werth
ei weld. Yn lliwgar, yn ddwyieithog ac yn
dangos yr ysgol ar ei gorau mae eisiau i
chi ymweld a
www.pembschool.org.uk/trewyddel
Maent wedi cynnwys gwybodaeth
am yr ysgol, dyddiadur, ffotograffiau a
gwaith y plant. Diddorol iawn. Dyma'r safon
dylai ysgolion eraill geisio am!!
Gobeithiaf nad yw
wedi anghofio rhywun. Rhowch wybod os oes
gan eich ysgol gwefan nad wyf wedi ymweld
a ac fe wna i rhoi gwybod i'r byd. Yn yr
un modd os ydych chi yn gwybod am unrhyw
gwefan diddorol dylwn i weld anfonwch y
cyfeiriad i mi ar syrff@hotmail.com |