| Trefgwyddel - Mallt’s Grove |
| Mae
yna nifer o wahanol straeon sy’n son am sut y cafodd Trewyddel ei enw ond
yr un sy’n debyca i fod yn gywir yw’r un sydd a’i ffynhonnell yn y ffaith
bod Eglwys Trewyddel wedi cael ei galw yn “Ecclesia de Grana Matildis.”
Mae cyfeiriad i hyn yn dyddio nol i 1291 ac yn cyfiethu i;- yr Eglwys yng
ngallt Matilda. Rhoddodd Matilda, a briododd Robert Fitzmartin, Trewyddel
fel rhan o’i argyfrau i Abaty Llandudoch. Yn raddol dros gyfnod fe newidiodd
yr enw i “Moldegrove”, ac erbyn amser Henry 8fed roedd yn cael ei adnabod
fel “Moilegrove.”
Roedd Matilda yn ferch i William Peveral, Tregammon, ac roedd hi yn hoff iawn o gerdded drwy’r allt. |
|
Y Gymraeg am Matilda yw Mallt ac mae llawer o chwedlau iasol wedi datblygu dros y blynyddoedd yn seiliedig ar hyn. Mae’n debyg bod Mallt yn cael ei disgrifio fel “athrylith drygionus”, “Mallt y Mwnci” a “Mallt o’r Niwl.” Yn ol yr hanes roedd bodau dynol a oedd yn ei gweld yn golchi ei dwylo yn yr allt yn marw! Ar gyfnodau byddai dynion a fyddai yn cerdded adref o’r dafarn ar nosweithiau niwlog yn ei gweld wrth lon Penrallt Ceibwr. |
| Mae Trewyddel yn hannu o’r enw Tre-Gwyddel ac mae yna dystiolaeth fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yng Nghemaes ers amser y Rhufeiniaid gan fod arysgrifen ar rai o’r Cerrig Ogam yn yr ardal wedi eu hysgrifennu yn y Wyddeleg. |
| Nol i Hanes | Bwrdd Du |