Naw Tafarn

 
Roedd yna naw tafarn yn Nhrewyddel yn ystod y ddeunawfed ganrif, ac roedd dau o rhain yng Ngheibwr. 
 Hwyliau llongau bychain a gwaelod fflat yn cario carreg calch i mewn i Ceibwr ar y llanw, a phan byddai mor yn mynd allan byddai’r cychod yn cael eu gadael ar y traeth. Wedyn fe fyddai yna ruthr mawr i waghau’r  cargo i mewn i gert a cheffylau a fyddai’n aros ar y traeth. Llosgwyd y garreg yn yr odyn galch a oedd ar ochr y traeth cyn ei wasgaru ar y caeau i wella’r pridd. Roedd yna ddwy odyn ond dim ond gweddillion un sydd i’w gweld nawr. 
Mewnforiwyd golosg, cymysgwch o lwch glo a chlai a oedd yn cael ei ddefnyddio fel tanwydd rhad i Ceibwr o Abertawe. Mae’n debyg fod brandi o Ffrainc hefyd yn cael ei fewnforio yma ac mae dyma’r “goresgyniad olaf” y ganrif yma.

 
Fe wnaeth pwysigrwydd Ceibwr fel porthladd leihau gyda gwelliant yn nhrefniaeth yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif . Hwyliodd y llong olaf i mewn i’r bae yn 1926 a chasglodd nifer helaeth o’r gymuned allan i weld diwedd cyfnod mewn hanes. Am gyfnod daeth y calch a’r golosg ar y rheilffordd i Abertefi.  Daeth cerbydau yn boblogedd i gario nwyddau, er maen debyg bod y rhai cyntaf yn ol pob tebyg yn arafach na cheffyl  a chart. Caewyd y tafarnau gyda Tafarn Newydd yn aros nes 1904.
Bydd olion hanes, prydferthwch a llonyddwch arbennig yr ardal nawr yn cael ei gwarchod gan fod Ceibwr yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe wnaeth Wynford a Charlotte Vaughan Thomas yn garedig iawn cyflwyno  y tir i’r Ymddiriedolaeth  yn 1983.
 

 
Nol i Hanes Bwrdd Du