| Hanes Diweddar |
| Tyfodd
pentref Trewyddel o gylch y diwydiant amaethyddol a dyma’r brif diwydiant
heddiw gyda’r pwyslais ar laeth, da tew a garddwriaeth.
Mae’r
pentref yn enwog yn lleol am dyma’r lle y dechreuoadd Billy Richards gwmni
Bysis Richards yn y 1920. Cychwynwyd y busnes gyda un lori a oedd yn cael
ei gyrru gan stem, yn cario defnydd adeiladu ffyrdd. Cariwyd adeiladwyr
wedyn yn ddyddiol i Drecwn yn 1939 i adeiladu y depot yno i’r Weinyddiaeth
Amddiffyn.
|
|
Mae diwydiant eraill wedi tyfu fel bod gofynion cymdeithas wedi newid. Mae’r ddwy efail a’r felin wedi hen gau fel y daeth trefnidiaeth yn haws ac ar gael i bawb ond mae adeiladwyr, saer coed, plymwr a pheintiwr tai yn dal i fod yn y pentref yn ogystal a arlunwyr a chrefftwyr. Mae rhai o dai y pentref nawr yn gartrefi gwyliau ac yn rhoi gwaith i fobl lleol. |
|
Yn 1972 ar ol i’r Llwybr yr Arfordir gael ei sefydlu agorwyd cangen o Wylwyr y Glannau yn Nhrewyddel. |
|
Ar Sul y Cofio, Tachwedd 13, 1994 fe ddadorchwyddwyd y Gofeb newydd sydd i’w weld yn y maes parcio yn y pentref. Ar y Gofeb mae enw tri o drigolion lleol a fu farw yn ymladd dros eu gwlad yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
|
| Nol i Hanes | Bwrdd Du |