Ysgol Trewyddel

 

Ysgol Trewyddel 1903
Yn ystod 1954 fe fu yna haint o’r diciau yn yr ysgol. O ganlyniad fe losgwyd cofnodion yr ysgol sydd wedi gwneud y gwaith o ymchwilio i hanes yr ysgol cyn y cyfnod yma yn anodd.

Daeth addysg i Drewyddel tua 1730 gyda’r Ysgolion Cylchynol. Yn yr adeg yma roedd  Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol yn darparu Beiblau Cymraeg i Ysgolion Cylchynol. Roeddent yn cael eu galw yn Ysgolion Cylchynol gan fod athrawon teithiol yn teithio o un ardal i’r llall gan aros ymhob ardal nes fod pawb a oedd yn dymuno dysgu darllen yn gallu gwneud ac yna symud ymlaen i ardal arall gan adael un person oedd yn byw yn y pentref yng ngofal yr ysgol.  Gwnaethpwyd llawer o dda yng ngefn gwlad Cymru heb lawer o gost gan fod yr ysgolion yn cael eu cynnal mewn eglwysi neu cartrefi’r bobl a bach iawn oedd tal yr athrawon. Hefyd roedd y llyfrau a oedd ar gael yn rhad iawn. Nid oes yna gyfnodion cyflawn ond roedd yna lawer o athrawon yn Sir benfro yn 1745/6, yn bendant un yn Nhrewyddel ac un yn Monington.
Cyn fod yr ysgol bresennol yn cael ei chodi credir fod yna ysgol yn cael ei chynnal mewn adeilad bach gwrtherbyn a Chapel Bethel a elwir yn Festri Fach.  Roedd hwn hefyd yn gartref i Sefydliad y Merched, yr “Home Guard” a’r Ysgol Sul nes fod Festi Bethel yn cael ei hadeiladu yn 1932. Mae’r adeilad yma i’w weld yn y llun o Drewyddel a dynnwyd yn 1903.

Dyna ddetholiad o Adroddiad Arolygwyr Eu mawrhydi, 1955.
Mae’r ysgol yn gymuned fach hyfryd gyda awyrgylch hapus. Mae’r disgyblion yn naturiol a phleserus;- maent yn ymateb ac yn ymddangos a diddordeb yn y gweithgareddau gwahanol.

Sy’n cymharu a Adroddiad diweddar SPAEM, 1997;-

 “Mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalgar a llwydda i hyrwyddo gwerthoedd ac agweddau cadarn”...... “Gwna’r disgyblion gynnydd priodol mewn sgiliau a dealltwriaeth. Ceir cynnydd da mewn gwybodaeth. Mae’r disgyblion yn meddu ar agweddau positif tuag at ddysgu ac yn dangos diddordeb yn eu gwaith”........ “Cheir ymdeimlad cryf o berthyn i’r ysgol a’r gymuned”............” Darperir cwricwlwm eang a chytbwys sy’n cynnwys holl bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac Addysg Grefyddol” 
 


Adeiladwyd yr adeilad presennol yn 1867, gyda  toiledau y merched yn cael ei ychwanegu yn 1894. Codwyd yr arian i godi’r ysgol yn lleol gyda lle ynddi i 117 o blant. 
Nes 1902 roedd hi’n “Board School” cyn cael ei chymeryd drosodd gan y Cyngor.
Tal Y Prifathro, Joseph Lewis, yn 1894 oedd £50 y flwyddyn, tal Frances Owen, yr athrawes wnio oedd £4 a cafodd Maurice Williams 2 swllt am lanhau y simne.

 


Mae’r ysgol dros y blynyddoedd wedi chwarae rhan fawr ac arwyddocaol yn y gymdeithas leol.
Yn 1958 cynhaliwyd arwerthiant fawr yn yr ysgol i dalu am oleuadau ar y ffordd. Codwyd £700.

Yn ystod y flwyddyn mae yna wahanol weithgareddau yn cael eu cynnal gan yr ysgol sy’n cynnwys y bobl lleol. Cyn y Nadolig bob blwyddyn mae’r ysgol yn llwyfannu ddrama gerdd neu gyngerdd bywiog, sy’n cael ei gefnogi yn dda gan y gymuned ac yn llwyddiant mawr.
Dathlir Dydd Gwyl Dewi yn yr ysgol drwy gynnal Eisteddfod rhwng y ddau dy;- Awen a Cheibwr. Mae’r plant yn cael cyfle i wisgo eu gwisg Gymreig ac yn ogystal a chanu a llefaru mae yna gystadleuthau arlunio, crefft, ysrgifennu storiau, llawysgrifen ac hefyd seremoni Cadeirio a Choroni. Bron bob blwyddyn mae naill yna barti neu unigolion wedi cynrychioli Cylch Cemaes yn yr Eisteddfod Sir ac mae yna ambell gysadleuaeth wedi cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn ystod Tymor yr Haf cynhelir Mabolgampau, eto rhwng y ddau dy, ac mae yna gyfle  i’r rhieni hefyd ddangos eu doniau yn ystod y prynhawn.
Yn ogystal, mae’r ysgol yn cymeryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau lleol ac fe welir y plant yn rheolaidd allan yn y pentref a’r ardal leol yn gwneud astudiaethau o’r amgylchfyd ac hanes lleol.

Nol i Hanes Bwrdd Du