Roedd
un o arwyr Rhyfel y Degwm yn byw yn Whitlands, Trewyddel, sef Pegi Lewis.
Roedd gan ei thad, Dafydd Lewis y Crudd, a oedd yn Annibynnwr, farn
flaengar gweledol o’i amser ac yn ol yr hanes roedd Pegi Lewis yn un mor
effro a’i thad er ei fod wedi marw yn 1869. Mae’n debyg fod Pegi, pan ddaeth
“Y Swyddog” i gasglu un o’i dwy fuwch fel rhan o ddyled y degwm,
wedi penderfynu adael y fuwch yn rhydd a gallai’r “Swyddog” ei hyn ei dal.
Er mawr
difyrrwch i Pegi methodd “Y Swyddog” a dal y fuwch ac fe fu’n rhaid iddo
fynd o Whitlands yn wagllaw! Yn dilyn fe gynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu
balad am wethred dewr Pegi gyda gwobr o£5. Mae’r ffaith fod yna 67
o feirdd wedi cystadlu yn dangos pwysigrwydd safiant Pegi.
Ysgrifennwyd y falad fuddigol gan Watcyn Wyn. Bu farw Pegi yn 1900 yn 76
mlwydd oed. Fe’i claddwyd yn Eglwys Sant Andrew ond yn anffodus nid oes
carreg fedd ar ei bedd. |