| Pwll y Wrach |
|
Gellir cyrraedd Pwll y Wrach drwy ddilyn llwybr yr arfodir o Fae Ceibwr. Mae’n nodwedd daearegol anghyffredin ac ysblennydd iawn gan fod crochan anferth wedi ei ffurfio yn y creigiau sydd yn cael ei gysylltu a’r mor gan dwnnel cul, uchel. Pan fod y llanw i mewn a’r gwynt yn stormus gellir gweld y mor yn cael ei hyrddio i mewn i’r crochan drwy’r twnnel ac yn saethu i fyny i’r awyr. Mae hwn yn esiampl dda o dwnnel wedi dymchwel ac wedi ei ymestyn gan erydiad y tywydd a’r tonnau. |
|
Yn ogystal a’r golygfeydd godidog a’i gwelir yma ac o gylch Pwll y Wrach, mae yma amrywiaeth helaeth o fywyd gwyllt a phlanhigion i’w canfod. Mae’r Morloi Llwyd neu Morlo’r Mor Iwerydd i’w gweld yn rheolaidd yn nofio yn agos i’r lan ac ar adegau mae’n bosib eu gweld ar y traethau.
Mae Gwalch y Penwaig, arwyddlun Y Parc Cenedlaethol, yn gyffredin i’r ardal
ac i’w gweld ym mhobman yn y rhan yma o’r Parc Cenedlaethol. Mae’r clogwynni
yn gartref i amrywiaith o adar y glannau ac yn ystod y tymor nythu
mae yna nifer o adar yn nythu gyda’i gilydd.
|
| Nol i Ddaearyddiaeth | Bwrdd Du |