Eifionydd
(y Lôn Goed)

Yr enw gywir am y "Lôn Goed" yw "Lôn Maugham" ar ol stiward yr ystad Gwynfryn pwy adeiladodd y llwybr i cario calch oedd wedi dadlwytho oddiwrth smaciau ar lan môr Afonwen
The true historical name for the "Lôn Goed" (Woods Road) is "Lôn Maugham". Named after the steward of the Gwynfryn Estate. He had the road built to carry lime, unloaded from coasting smacks, beached on the foreshore at Afonwen.

{short description of image}

O olwg hagrwch Cynnydd
Ar wyneb trist y Gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith
Ond lle bu'r arad' ar y ffridd
Yn rhwygo'r gwanwyn pûr o'r pridd.

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win.
Hen hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed
O fwa'i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn
O'm dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun
Neu gydag enaid hoff cytûn.

R. Williams Parry

Yn ol i llenyddiaeth
Back to Folklore
Yn ol i tudalen Cymru
Back to Wales/Gwynedd Page