Who was Huw Puw and what is a "Flat"

Huw Puw wrth y llyw

Pwy oedd Huw Puw, a beth ydi "Fflat"


Every child in North Wales knows about Hugh Pugh, the intrepid sailor and his "flat". He was a true life character in the vein of "Para Handy" (though a generation or two earlier). He was born in Caernarfon in 1795.


flatdraw.gifThe songs (see below) tell of a young boy's longing to go "assailing", to wear a peaked cap, have brass buttons and to buy silk stockings and dancing shoes with silver buckles.

A flat was a single-masted estuarial barge built for the River Mersey, the River Dee and adjacent coastline(sometimes they had a small mizzen mast also). In Porthmadog they were called "llongau Caer" ("Chester ships"). They could be seen in every creek, harbor and on beaches from Morecombe Bay to Aberystwyth. Hugh Pugh's voyages into Cardigan Bay and over to Ireland were considered "foreign going"! One version of the song has Hugh Pugh battling " around Bardsey  Island - equivalent to rounding the "Horn" for the little flat ANN. Dafydd Jones was the Mate, not old "Davey Jones"( he with the locker!). Huw and Dafydd would have been sufficient crew for the little vessel but they probably carried a young boy for general "dogsbody" duties.



Fflat Huw Puw yn hwylio.
Dafydd Jones yn rhiffio;
Huw Puw wrth y llyw,
Yn gweiddi Duw a'n helpo.

The ANN was wrecked on St Tudwal's Islands in October 1858 while bound for Barmouth with a cargo of timber

Despite their innocence, the songs are evocative of the life of the Lleyn Peninsula where many a young lad went to sea in one of the hundreds of coastal vessels before graduating to the large square riggers out of Liverpool.


Mae bôb plentyn yng Ngogledd Cymru yn 'nabod am y forwr dewr Huw Puw â'i fflat. Dyn hanesyddol iawn fe oedd, ô Gaernarfon. Llongau bach un-fast hefo stîrio gan llyw oedd y fflatiau. Eu marchnad arferol oedd ô'r Afon Mersi a'r Dyfrdwy ag ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Ym Mhorthmadog oeddyn nhw yn galw y fflatiau "llongau Caer". Pan aeth Huw Puw heibio Enlli i Bae Ceredigion, neu î'r Iwerddon roedd ô fel "rowndio'r Horn". Mae'r cân (gwelwch oddi tan) am yr hiraeth gan hogyn bach a oedd esio fynd forio fel ganoedd ô'i blaen.


Ddrylliodd yr Ann ar Ynysoedd St Tudwals yn 1858. 


Melody - Dydd Cyntaf o Awst

(Most definitely a hornpipe is danced by the children while this is sung!)

Mae swn yn Mhortinllaen, swn hwylie'n codi:
Blocie i gyd yn gwichian, Dafydd Jones yn gweiddi:
Ni fedra'i aros gartre yn fy myw;
Rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Fflat Huw Puw yn hwylio heno,
Swn codi angor; mi fyna'i fynd i forio:
Mi wisga'i gap pig gloew tra bydda'i byw,
Os cai fynd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw.
Mi bryna'i yn y Werddon sane sidan,
Sgidie bach i ddawnsio, a rheiny a bycle arian;
Mi fyddai'n wr bonheddig tra bydda'i byw,
Os ca i fynd yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.
Mi gadwai'r Fflat fel parlwr gore,
Bydd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore;
Mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw,
Pan fydda i yn Gapten llong ar Fflat Huw Puw.


Cân Huw Puw

Cei fynd i'r môr ar Fflat Huw Puw, a byw fel gwr bonheddig ;
Cei gap pig gloew, 'machgen bach, a sgidie bach a menyg ;
Cei frethyn glas, botyme pres, a hances sidan hefyd :
Mi fyddi di yn ddigon siwr yn llongwr mewn dau funud;
Llongwr Fflat Huw Puw ;
Pwy sydd am fynd i'r môr ar Fflat Huw Puw ?
Ffa la la la la la. Ffa la la la la la la Ffa la la.

Cei weled rhyfeddode byd, cei hwylio hyd Bwllheli,
Porthmadog, Nefyn, Abersoch, Traeth Coch a'r Felin Heli ;
Bliwmaris, Amlwch a Llanon, Caernarfon a Chaergybi,
Ceinewydd, Solfach, Abergwaun, a Phortinllaen ac Enlli,
Oll ar Fflat Huw Puw:
Pwy ddaw am wledydd pell ar Fflat Huw Puw?
Ffa la la la la la. Ffa la la la la la la Ffa la la.

Rhaid iti frysio, machgen bach; mae bellach yn dop llanw ;
Rhaid inni fynd ar flaen y trai ; ni sai mo'r teitie garw :
Mae'r gwynt yn chwythu dros y tir, a'r sêr yn glir i'w gweled ;
Bydd Fflat 'r hen Huwcyn yn y man, o dan ei hwylie'n cerdded:
Tyrd ar Fflat Huw Puw :
Llong gwr bonheddig ydi Fflat Huw Puw.
Ffa la la la la la. Ffa la la la la la la Ffa la la.

J. Glyn Davies

wheel_top.gif TOP
TOP

Home Page / Cartref

GUEST BOOK AND CONTACT DETAILS