Cerddi a Farddoniaeth y Môr

shanty2.jgif

Welsh Songs of the Seas, Fore Biters, Shanties and Poetry

Caneuon waith oedd "shanties". Mewn curiad i halio ar y rhafau neu cerddedd rownd yr windlass. "Fore biters" ydi "Rownd yr Horn", "Ffarwel i Ynys Enlli" a rhei o'r eraill. Caneuon i canu ar ol orffan waith, yn eistedd ar y hats neu yn y focs'le.



Rownd yr Horn

Daeth diwrnod i ffarwelio
Ag annwÿl wlad y Cymro
Gan sefÿll ar hen dir y Werddon fras
Fe gododd gwÿnt yn nerthol
y môr â'i donnau rhuthrol
Gan olchi dros ein llestr annwÿl las

CYTGAN

Dewch Gymrÿ glân I wrando ar ein cân
Fel bu y fordaith rownd yr Horn, rownd yr Horn
Sef y trydÿdd dÿdd o'r wÿthnos
Ychydig cÿn y cyfnos
Gan basio ger glân greigiau glannau Môn

Rw i wedi mÿnd a dwad
Mewn llongau hardd 'u gweled
Ond dyma'r wyrcws benna gefais i
Does yma ddim i'w fwÿta
Ond gwaith sÿdd lond ein breichia
O, calon pwÿ all beidio bod yn brudd!

CYTGAN

roaring forties


Salm CVII

p  23 - 30


drost y starnY rhai a ddisgynant mewn llongau, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion,.

Hwy a welant weithredoedd yr ARGLWYDD, â'i rhyfeddodau yn yr dyfnder.

Canys, efe a orchymyn, a chyfydd tymestl-wynt, yr hwn a ddyrchaffa ei donnau ef.

Hwy a esgynant î'r nefoedd, disgynant î'r dyfnder: tâwdd eu henaid gan flinder.

Ymdrôant, ac ymsymmudant fel meddwyn: â'u holl ddoethindeb a ballodd.

Yna y gwâeddant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe â'u dwg allan ô'u gorthrymderau.

Efe a wna yr ystorm yn dawel; â'i thonnau  a ostegant.

Yna y llawenhant am eu gostegu; ac efe â'u dwg i porthladd a ddymunent
 

 
Edrych tuag adre
 
A glywch chwi'r gair, mae'r llong ar hwylio
A ninau yn mynd adre;
O olwg tîr y byddwn heno
O hogiau mor deg edrych tuag adre.
Ni fydd ddim tîr mewn chydig oriau, (a ninau etc)
Ni fydd ond mor a sêr a hwyliau (O hogiau etc)

Chwi adar gwynion sy'n ein danfon,
A glywsoch chwi am Sir Gaernarfon?
O wlâd yr haul mae Cymru'n fechan,
Ond daw y briallu 'nghoed Boduan
Mae blodau wlad yr haul yn wychion,
Ond boddlon wyf ar fysedd cochion.

O wlâd yr haul mae'n dirion yma,
Ond gwell fy nghartre dan yr eira.
Wrth nesau at yr Horn daw'n oerach,
Ond daw fy nghalon yn gynesach.


(allan o "Cerddi Porthdinllaen" gan J.Glyn Davies)

shanty1.gif
Dyma cerdd gefais oddiwrth Dic Thomas, o Blaenau Ffestioniog, allan o gasgliad ei Taid a hwyliodd ar llongau Porthmadog dechrau'r ganrif.


Yr Hên Sgwnar
schnr-wen.gif

Hwyliodd ô'r Cei yn wen, â'i phâent yn sgleinio,
I lawr y Laslyn lefn yn aradeg,
Ugain mlynedd yn ôl i fynd i grwydro,
Drwy'r  môr â'r gwynt a brechdan yn ei chêg.


Hwyliodd i Hambro', Corc, Belffast a Dulyn,
Â'r gwynt yn sigo'r mastiau tûa'r dwr,
Hwyliodd i ffwrdd, a hwyliodd adre wedyn
Pa ffordd?  Pa bryd? Ai byth? 'doedd neb yn siwr.
 
Gynnau,daeth adre'n garpiog i'r Cei llechi
A hanes am  'hwyl wen' a 'storom fawr''
O'i chriw o chwech mae pump yn cartrefu
A thafarn ym Mhen Cei a'i bleinds i lawr.
 

Dyma un oedd fy Nhaid yn canu ambell tro.

Ffarwel i Ynys Enlli

Ffarwel i Ynys Enlli, Ffarwel St. Tudwal's Road :
Ffarwel i Dre Pwllheli Lle mae'r genod tlysau'n bod.
Ffarwel i Drwyn Pen-y-chain, Ffarwel i'r Afon Wen ;
Ffarwel i Castell Cricieth Sydd â pholyn ar ei phen.

'Rwy 'n mynd i Valpariso, A hwyrach Callao,
Yn hogyn bach o longwr, A boed hynny fel y bo.
Bydd riffio llawer topsel Rhag gwyntoedd mawr y nen
Cyn gweled eto'r castell Sydd â pholyn ar ei phen.

(Yr ail bennill gan Yr Athro Thomas Parry)
heibio Enlli


Dyma versiwn arall o'r un gân

Ffarwel i Ynys Enlli Ac i Saint Tydwal's Road
Ffarwel i dre Biwmaras Lle gwarais i lawer grôt
Mi deithiau'r byd, ei led a'i hyd A nofio dros y môr;
Bydd glaswellt ar fy llwybrau i Cyn delwyf i Gymru 'nol.

Ffarwel i Ynys Seriol Ac ynys bach y Don
Ffarwel i dre Pwllheli A'i merched ifanc llon
Ffarwel i Pen y Chain, Ffarwel i'r Afon Wen
Ffarwel i gastell Conwy A'r polyn ar ei ben
Ffarwel i Lanystumdwy A'r bwthyn bach un llawr
Ffarwel i gastell Harlech Sy bron a syrthio i lawr


A dyma yr un efallai oedd y wreiddyn o'r ddau uchod
Ffarwel i Ddociau Lerpwl

Ffarwél i ddociau Lerpwl,
Ffarwél i'm ffrindiau hael,
Ffarwél i Ynys Mona,
Sy'n anodd iawn ei chael.

Ffarwél i dref Biwmaris,
A'r merched ieuainc llon,
Rwy'n mynd yn awr o Lerpwl
I nofio dros y don.

O dewch Mari I nofio ar y llyn,
Mae'r awel wedi codi
I lanw'r lliain gwyn.



Goleu Enlli

Gwynt ô'r de â'r glaw yn fân
Trwm yw ga-dael Goleu Enlli!
Anodd iawn yw codi cân:
Trwm yw gadael Goleu Enlli!
Pa sawl mis fydd hyd y taith?
Duw a'i gwyr, mae'r môr yn faith

Nos yn dechreu cuddio'r lan: Trwm etc
Goleu Enlli'n pefrio'n wan; Trwm etc.
Pa sawl etc.

Adar mor ar hedfan hîr
Can ffarwel i adar tîr

Glaw o hyd ac awyr blwm,
Dec yn wlyb a'r hwyliau'n drwm

Gadael cartref, haul tan gûdd
Criw o Gymry'n ddigon prûdd.

Echdoe gartre'n Mhortinllaen:
Te a chrempog o fy mlaen.

Ffarwel ffrindiau bob ag un;
Gwych fydd hwylio'n ôl i Leyn

(allan o "Cerddi Porthdinllaen" gan J.Glyn Davies)


"Ein Tad cofia'r morwr
Rhwng cyfnos a gwawr
Mae'i llong ef mor fechan a'th fôr Di mor fawr"

allan o "Ora Pro Nobis" gan Eifion Wyn 1867-1926 
Ddolen i safle gyda llawer caneuon werin ac arforol o Pendraw Llyn

Ddolen tu allan i safle llond o cerddi forwrol y byd eang

Hanes y forwr dewr Huw Puw â'r cân (ar y wefan yma)
Yn ol i Hysbysrwydd Arforol


March 2008 - Complete new section with my illustrated stories
Mawrth 2008 - Adran newydd sbon gyda fy storiau ddarluniadol

wheel_top.gif TOP
TOP/Pen

Main Menu / Cynnwys

{short description of image}Anfonwch Bost-e i fi Robert Dafydd Cadwalader