Meetings are held on the 3rd Monday of the Month at
7 Wessex Drive, Rudheath
At 7.30pm

DROS  Y  CLAWDD 
Mynd i Lundain

Dros y blynyddoedd dw i wedi mynd i Lundain sawl gwaith am benwythnos, mynd i'r theatr  i weld sioe gerdd, cyngerdd arbennig, neu cymeryd rhan yn un o ryw chwe-chant yng ngwyl gorawl yn yr Albert Hall. Yna ar y Sul, cyn dychwelyd adre, cael lwc rownd y ddinas a chael cipolwg ar y mannau mwyaf poblogaidd, a'r tywysydd yn egluro dipyn o hanes y lleoedd i'r teithwyr ar y bws. Weithiau, ceir rhyw ddwy awr i hamddena yng nghanol y ddinas a chyfle i gael pryd o fwyd.
Y tro diwetha oedd llynedd. Mynd i'r Albert Hall i'r cyngerdd corau meibion, ac wyth ohonom o'r Gymdeithas Gymraeg yn Northwich ymlith llond bws yn mynd i'r cyngerdd fawreddog. Yn y côr mawr oedd Côr Meibion Hendy Gwyn a'r Daf, ond yn anffodus wyddwn i ddim o hyn nes i mi brynu rhaglen. Ond er i mi edrych yn fanwl ar feibion Hendy Gwyn, welais i neb o'm hên ffrindiau. Bum yn aelod o'r côr ym mro fy magwraeth.
Y peth am synodd, sioc efallai, oedd y ffaith fod mwyafrif o aelodau'r corau yn foel neu a'u gwallt yn wyn!  'Roedd rhai o'r dynion yn eu wythdegau; y mwyafrif helaeth dros eu hanner cant. Y ieuengaf oedd un tua deunaw oed yng ngôr Llandebie, os dw i'n cofio'n iawn.  Piti garw!  Mae gwrando ar ganu corau meibion Cymreig yn brofiad gwefreiddiol, a chydnabyddir hyn ym mhedwar ban y byd.  Ie, piti garw nad yw'r bobl ifainc yn ymuno a chadw'r traddodiad byd enwog yn fyw.. Efallai bod eisiau mwy  o gyhoeddusrwydd i weithgareddau'r corau ac hefyd ymgyrch i ricriwtio aelodau newydd.
Ond i fynd yn ôl i Lundain. Os yn bosibl, pan yn y ddinas rwy i'n gobeithio am gyfle i ymweld â'r eglwys  St Martin's in the Fields Scwar Traffalgar, nid yn unig i gael seibiant tawel i fyfyrio, ond efallai i gael pryd o fwyd yn y bwyty prysur tan ddaerarol (
crypt). Dw i ddim wedi bod mewn bwyty mor bysur yn unman. Dim ryfedd!  Bwyd blasus a digonedd ar y plat. A beth sy'n gwneud y lle'n ddiddorol yw'r cwsmeriaid, bob lliw a llun, o bob rhan o'r byd.
Ar y prynhawn Sul wedi'r cyngerdd, a minnau'n eistedd yn reit cysurus i gael cinio,  trist oedd gweld gwr canol oed, troednoeth, yn cerdded lawr y grisiau  o'r glaw i'r
  crypt, ac yna'n mynd o fwrdd i fwrdd, y rhai heb eu clirio, gan obeithio dod o hyd i damaid i fwyta, o weddillion cinio eraill. Dyn tlawd newynog mae'n amlwg.   A dyma un o'r staff yn mynd ato, cydio yn ei fraich ac yn ei arwain tuag at y grisiau, iddo fynd allan, yn ôl i'r stryd yn y glaw.
Piti garw!  Teimlais yn euog mod i ddim wedi prynu pryd o fwyd iddo, y pwr dab. Meddyliais am gyn offeiriad St Martin's in the Field, un a glywais dipyn o siarad am dano pan oeddwn yn blentyn,  Parchedig Dick Sheppard, gwr hoffus, rhadlon a phoblogaidd  ac yn ystod ei weinidogaeth, un a frwydrodd yn galed dros y tlawd a'r newynog. Os dw i'n cofio'n iawn Dick Shepherd oedd yr arloeswr a benderfynodd droi'r
crypt yn lloches i'r rhai mewn angen. 
Tybed beth fyddai adwaith Dick Sheppard i'r sefyllfa ar y prynhawn Sul hwnnw?
Lawer gwaith wrth ddychwelyd o Lundain i Ben-coed, lle'r oeddem yn byw yn yr wyth ar naw degau, wedi canu yr Albert Hall gyda chôr cymysg Pen-coed a'r Cylch, fe ddaeth yn arferiad i ni dorri'r daeth a chael seibiant yn Windsor. Priodas Tywysog Charles yn Windsor a atgyfododd côf am un achlysur.
'Roedd y tywydd yn eithriadol o oer, gaeafol dros ben, ac i hên bensiynwr fel fi, 'roedd yn ddoeth i wisgo
Long Johns. A dyna wneuthum dros y penwythnos 'na. A'r tywydd mor oer, teimlais yn ddigon bodlon a'm hunain yn y gwesty cyn gadael, fy mod i wedi penderfynu  gwisgo Long Johns.
Yn Windsor, roedd pawb yn chwilio am y lle cyfleus, yn enwedig y dynion. Wel dyna effaith y tywydd oer!. Roeddwn i  "jest a tagu eisie mynd". Ac o'r diwedd, wedi dod o hyd i dy bach cyhoeddus…..   'roedd y
Long Johns back to front!!   Piti garw ynte!
ODDIWRTH:     Gwili Lewis

NORTHWICH WELSH SOCIETY

The last of the summer meetings, the garden party at Crantock, West Road, Weaverham, on July 18th 2005, attracted an excellent turnout even though the weather was not ideal. Most of the activities were held indoors, and thanks to the hostess, member Pat Sinnott helped by friends, and to the background  music of Welsh Male Voice Choirs, the evening was most pleasant.

Pat provided two difficult quizzes;  the intriguing Biscuit Quiz was won by Eileen Owen, Rudheath, and the in depth gardening quiz by new member Anthony Masson, Knutsford.

Anthony, a Yorkshire man, having attended a number of crash courses in Wales has made astonishing progress in learning the language, and is now quite conversant.

A number of the Society members will attend the National Eisteddfod which this year is being held near Bangor. In a special ceremony to welcome Welsh people from overseas, the Northwich Society will be represented by Chairperson Beti Morris and her husband Alan, Runcorn. Beti's father, the late William Ellis Hughes had been station master at Hartford.

Members Norma and Mike King have left Sandiway to live at Bangor is y Coed, near Wrexham.

The next meeting of the Society will be the AGM  on September 19th.

If you have an article which may be of interest to other Society members, please let us know. We want to make this site interesting and of benefit for every one.

Northwich Welsh Society | About the Society | Society Officers | Forthcoming Events | Articles | Related Links | More Articles of interest

To contact us:
Northwich Welsh Society, C/O 'Gwynfa', 1 Castle Court, Northwich, Cheshire, CW8 1TA  Phone: 01606 784438
Email: gwili@northwichwelshsociety.org.uk